Cyflogaeth, hyfforddiant a sgiliau
Rydym yn cynnal ymchwil mewn meysydd fel cymorth cyflogaeth, datblygiad proffesiynol, hyfforddeiaethau a phrentisiaethau, a datblygu sgiliau sector-benodol.
-
(Medr 2026)
Comisiynwyd Arad gan Medr i gynnal astudiaeth gwmpasu o ddysgu proffesiynol yn y sector addysg drydyddol, ynghyd â gwerthusiad o’r defnydd a’r effaith o’r Gronfa Dysgu Proffesiynol Addysg Bellach (PLF). Mae’r fethodoleg wedi cynnwys ymchwil seiliedig ar ddesg, cyfweliadau â rhanddeiliaid, yn ogystal â chyfweliadau a thrafodaethau grŵp gyda ymarferwyr.
-
(Medr 2026)
Comisiynwyd Arad gan Medr i gynnal cyfweliadau gyda phrentisiaid i helpu i gefnogi eu rhaglen brentisiaeth yn y dyfodol. Nod yr ymchwil oedd dyfnhau dealltwriaeth o'r hyn sy'n gweithio'n dda a nodi unrhyw welliannau y mae angen eu hystyried i sicrhau bod rhaglen brentisiaeth y dyfodol yn cefnogi taith ddysgu'r prentisiaid yn effeithiol. Siaradodd Arad â dros 100 o brentisiaid ledled Cymru trwy gyfweliadau a thrafodaethau grwpiau bach.
-
(Medr 2026)
Comisiynwyd Arad Research gan Medr i ymgymryd ag ymchwil a thasg mapio gyda’r darparwyr sy’n cynnig prentisiaethau. Nod yr ymchwil oedd deall beth sy'n cael ei ddarparu a nodi unrhyw gyfleoedd ar gyfer dylunio a chyflawni'r rhaglen brentisiaeth newydd ar gyfer 2027. Roedd y dulliau yn cynnwys cyfweliadau â darparwyr a rhanddeiliaid a dadansoddiad o ddata gweinyddol.
-
Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (2023–24)
Cynhaliodd Arad arolygon a chyfweliadau â chyflogwyr i gasglu eu barn ar brentisiaethau a darparwyr hyfforddiant, archwiliodd data a llenyddiaeth ar effaith prentisiaethau ar brentisiaid, cyflogwyr ac economi Cymru a'u gwerth cyffredinol am arian, a rhoddodd argymhellion ar sut i'w hyrwyddo yn y dyfodol.
-
Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol (2022–23)
Cwblhaodd Arad werthusiad o'r Academi, gan asesu ei pherfformiad yn erbyn ei nodau strategol a’i effaith ar sgiliau a dyheadau'r bobl ifanc sy'n cymryd rhan yn y rhaglenni hyfforddi. Roedd yr adroddiad terfynol yn cynnwys astudiaethau achos gyda chyfranogwyr, mentoriaid a chyflogwyr ac argymhellion ar gyfer ehangu'r Academi yn y dyfodol.