Newyddion
Gallwch ddod o hyd i'n hadroddiadau cyhoeddedig diweddaraf, prosiectau newydd a newyddion eraill Arad yma.
-
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad a gynhyrchwyd gan Arad sy'n adolygu hyfforddiant yn y maes coedwigaeth.
Archwiliodd yr ymchwil y ddarpariaeth bresennol o hyfforddiant coedwigaeth a'r heriau sy'n ymwneud â sgiliau, y gweithlu a recriwtio sy'n wynebu'r sector. Gan dynnu ar dystiolaeth gan ddarparwyr hyfforddiant, cyflogwyr, cynrychiolwyr y sector ac arbenigwyr eraill ym maes coedwigaeth, mae'r adolygiad yn nodi anghenion sgiliau presennol, rhwystrau i hyfforddiant a chyfleoedd i gryfhau datblygiad y gweithlu.
Bydd y canfyddiadau'n helpu i lywio polisïau yn y dyfodol ac yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu gweithlu medrus sy'n barod ar gyfer anghenion y sectorau coedwigaeth a phren yng Nghymru i’r dyfodol.
Darllenwch yr adroddiad llawn yma
-
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad a gynhyrchwyd gan Arad sy'n archwilio digonolrwydd darpariaeth ddysgu ychwanegol cyfrwng Cymraeg.
Mae'r ymchwil yn darparu asesiad o argaeledd a defnydd darpariaeth dysgu ychwanegol cyfrwng Cymraeg, gan archwilio sut mae dyletswyddau'n cael eu deall a'u gweithredu ar draws y system anghenion dysgu ychwanegol. Gan dynnu ar dystiolaeth gan ystod eang o randdeiliaid, mae'r adolygiad yn nodi cynnydd a wnaed, heriau sy'n parhau, a chyfleoedd ar gyfer datblygiad pellach.
Bydd y canfyddiadau'n cyfrannu at waith polisi a chynllunio yn y dyfodol er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yn gallu cael mynediad at gymorth priodol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’r adroddiad llawn yma:Adolygiad pum mlynedd o'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol cyfrwng Cymraeg | LLYW.CYMRU
-
Mae adroddiad newydd gan Arad ar gael. Mi wnaeth ein gwerthusiad asesu dyluniad a gweithrediad y gweithgareddau a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru yn ystod Ewros y Menywod 2025, ynghyd â’u heffaith. Darllenwch yr adroddiad llawn yma.
-
Mae'r gwaith ymchwil hwn yn cynrychioli Ton 1 o'r ymchwil astudiaethau ardal. Dewiswyd chwe ardal awdurdod lleol i'w cynnwys yn y sampl astudiaethau ardal yn seiliedig ar wahanol feini prawf daearyddol a demograffig-gymdeithasol.
Yn y 6 awdurdod lleol hyn, roedd y gwaith maes yn cynnwys cyfweliadau a grwpiau ffocws gydag ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol mewn ysgolion, Unedau Cyfeirio Disgyblion, lleoliadau blynyddoedd cynnar, sefydliadau addysg bellach, awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol. Mewn rhai awdurdodau lleol, roedd gwaith maes yn cynnwys nifer fach o gyfweliadau neu grwpiau ffocws gyda dysgwyr ag ADY a rhieni/gofalwyr dysgwyr ag ADY.
Darllenwch yr adroddiad llawn yma
-
Mae ColegauCymru wedi cyhoeddi dogfen ganllaw synhwyraidd newydd ar gyfer y sector addysg bellach. Wedi’i gynhyrchu gan Arad mewn partneriaeth â ColegauCymru, sefydliadau addysg bellach, a sefydliadau’r trydydd sector, mae’r canllaw hwn wedi’i gynllunio i helpu gweithwyr addysg bellach proffesiynol yng Nghymru i ddeall y ffordd orau o gefnogi dysgwyr sy’n fyddar a dysgwyr sydd ag amhariad ar eu golwg. Mae’r canllaw’n amlinellu egwyddorion ac argymhellion allweddol ar gyfer cefnogi’r dysgwyr hyn, ynghyd ag adrannau sy’n ymdrin â dyletswyddau, mathau o gefnogaeth, dysgu proffesiynol, a gwybodaeth ac adnoddau pellach.
Gellir cael mynediad at y canllawiau yma.