Newyddion
Gallwch ddod o hyd i'n hadroddiadau cyhoeddedig diweddaraf, prosiectau newydd a newyddion eraill Arad yma.
-
Mae adroddiad diweddaraf Arad ar y system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) wedi'i gyhoeddi, sy'n crynhoi canfyddiadau arolwg o weithwyr proffesiynol o fyd addysg, awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol. Casglodd yr arolwg farn ar y system ADY, gyda chanfyddiadau wedi'u cyflwyno ar draws sawl thema: gwybodaeth a dealltwriaeth, cefnogaeth y gweithlu, rôl y CADY, adnabod anghenion, cynllunio darpariaeth, cydweithio, ac unrhyw rwystrau. Cewch ddarllen yr adroddiad llawn yn Gwerthusiad o'r system Anghenion Dysgu Ychwanegol: arolwg o ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol | LLYW.CYMRU
Nawr mae cyfle i’r rhieni i rannu barn. Rydym am glywed profiadau rhieni a gofalwyr ar y system anghenion dysgu ychwanegol, a mae dolen i'r arolwg yma: Gwerthusiad System ADY: Arolwg Rhieni a Gofalwyr
-
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi astudiaeth ansoddol ar Degwch a Chynwysoldeb yn y Cwricwlwm i Gymru a gwblhawyd gan Arad a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd fel rhan o’r gwerthusiad ffurfiannol o’r Cwricwlwm i Gymru. Mae’r adroddiad yn anelu i ateb dau gwestiwn cyffredinol:
Sut mae canllawiau Cwricwlwm i Gymru yn cael eu gweithredu yn ymarferol i gynorthwyo tegwch a chynwysoldeb?
Sut mae lleoliadau ac ymarferwyr yn cael eu cynorthwyo i weithredu Cwricwlwm i Gymru mewn ffordd sy’n cynorthwyo tegwch a chynwysoldeb?
Mae’r adroddiad yn rhan o gyfres o astudiaethau ansoddol sy’n archwilio elfennau penodol o’r Cwricwlwm i Gymru, sy’n cael eu harwain gan Arad a’n partneriaid mewn sefydliadau addysg uwch. Mae’r astudiaethau eraill yn ffocysu ar iechyd a lles, darpariaeth cwricwlwm heblaw yn yr ysgol (AHY), a chynllunio cwricwlwm ac asesu ac addysgeg.
-
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi astudiaeth ansoddol ar faes dysgu Iechyd a Lles yn y Cwricwlwm i Gymru a gwblhawyd gan Arad a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd fel rhan o’r gwerthusiad ffurfiannol o’r Cwricwlwm i Gymru. Mae’r adroddiad yn anelu i ateb dau gwestiwn cyffredinol:
Sut mae canllawiau Cwricwlwm i Gymru mewn perthynas â Maes Iechyd a Lles yn cael eu gweithredu yn ymarferol?
Sut mae lleoliadau ac ymarferwyr yn cael eu cynorthwyo i weithredu Maes Iechyd a Lles fel rhan o Gwricwlwm i Gymru?
Mae’r adroddiad yn rhan o gyfres o astudiaethau ansoddol sy’n archwilio elfennau penodol o’r Cwricwlwm i Gymru, sy’n cael eu harwain gan Arad a’n partneriaid mewn sefydliadau addysg uwch. Mae’r astudiaethau eraill yn ffocysu ar degwch a chynwysoldeb, darpariaeth cwricwlwm heblaw yn yr ysgol (AHY), a chynllunio cwricwlwm ac asesu ac addysgeg.
-
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi astudiaeth ansoddol ar wireddu’r Cwricwlwm i Gymru mewn darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol gan gynnwys Unedau Cyfeirio Disgyblion. Cwblhawyd yr astudiaeth gan Arad a Phrifysgol Bangor fel rhan o’r gwerthusiad ffurfiannol o’r Cwricwlwm i Gymru. Rhoddodd yr ymchwil sylw i ddau nod canolog a oedd yn ymwneud â darpariaeth AHY, sef:
deall sut y gweithredir canllawiau Cwricwlwm i Gymru yn ymarferol
archwilio sut y caiff darparwyr AHY eu cynorthwyo i weithredu Cwricwlwm i Gymru
Mae’r adroddiad yn rhan o gyfres o astudiaethau ansoddol sy’n archwilio elfennau penodol o’r Cwricwlwm i Gymru, sy’n cael eu harwain gan Arad a’n partneriaid mewn sefydliadau addysg uwch. Mae’r astudiaethau eraill yn ffocysu ar degwch a chynwysoldeb, maes dysgu Iechyd a Lles, a chynllunio cwricwlwm ac asesu ac addysgeg.
-
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi astudiaeth ansoddol ar gynllunio cwricwlwm ac asesu ac addysgeg yn y Cwricwlwm i Gymru. Cwblhawyd yr ymchwil gan Arad a Phrifysgol Stirling fel rhan o’r gwerthusiad ffurfiannol o’r Cwricwlwm i Gymru. Mae’r adroddiad yn anelu i ateb dau gwestiwn cyffredinol:
Sut mae canllawiau Cwricwlwm i Gymru mewn perthynas â Maes Iechyd a Lles yn cael eu gweithredu yn ymarferol?
Sut mae lleoliadau ac ymarferwyr yn cael eu cynorthwyo i weithredu Maes Iechyd a Lles fel rhan o Gwricwlwm i Gymru?
Mae’r adroddiad yn rhan o gyfres o astudiaethau ansoddol sy’n archwilio elfennau penodol o’r Cwricwlwm i Gymru, sy’n cael eu harwain gan Arad a’n partneriaid mewn sefydliadau addysg uwch. Mae’r astudiaethau eraill yn ffocysu ar degwch a chynwysoldeb, darpariaeth cwricwlwm heblaw yn yr ysgol (AHY), ac iechyd a lles.