Cymunedau
Rydym yn ymchwilio ac yn gwerthuso ymagweddau at ddatblygu cymunedol a rhaglenni sy'n cefnogi cynhwysiant cymdeithasol ar draws cymunedau amrywiol yn y DU.
-
(Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, 2026)
Comisiynwyd Arad Research gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru i gynnal adolygiad o dystiolaeth ynghylch profiadau pobl hŷn yn y carchar yng Nghymru ac o Gymru. Archwiliodd yr ymchwil broffil demograffig pobl hŷn o Gymru sydd yn y carchar a phobl hŷn mewn carchardai yng Nghymru, ynghyd â'r ddeddfwriaeth, polisïau a strategaethau perthnasol a'r prif faterion sy'n wynebu carcharorion hŷn.
-
(Llywodraeth Cymru, 2025)
Comisiynwyd Arad Research gan Lywodraeth Cymru i ddadansoddi ymatebion i'w hymarfer ymgysylltu ar brofiad plant yn byw mewn tlodi. Roedd y prosiect hefyd yn cynnwys adolygiad o ddeg ffynhonnell dystiolaeth allweddol ar dlodi a phrofiad byw yng Nghymru er mwyn nodi themâu, mewnwelediadau a blaenoriaethau cyffredin.
Darllenwch yr adroddiad llawn yma.
-
(Sense a Hijinx, 2025)
Comisiynwyd Arad Research gan Sense i werthuso ei rhaglen ddawns gynhwysol yng Nghymru, a gyflwynwyd mewn partneriaeth â Hijinx. Nod y rhaglen beilot oedd darparu profiadau celfyddydol cynhwysol o ansawdd uchel ac ystyrlon i bobl a gefnogir gan Sense mewn canolfannau dydd a lleoliadau gofal preswyl.
-
(Independent Age, 2024)
Comisiynwyd Arad Research gan Independent Age i ymchwilio i weithgareddau posibl yn y dyfodol ar gyfer y sefydliad yng Nghymru. Roedd y gwaith yn cynnwys adolygiad o'r ddeddfwriaeth a'r cyd-destun polisi, dadansoddi data demograffig a chymdeithasol-economaidd ar bobl hŷn yng Nghymru, mapio gwasanaethau cymorth, ac asesu cyfleoedd ariannu i gefnogi pobl hŷn sy'n wynebu caledi ariannol.
-
(Oxfam Cymru, 2015)
Roedd y prosiect Adeiladu Bywoliaethau a Chryfhau Cymunedau yng Nghymru yn brosiect tair blynedd a gefnogwyd gan y Gronfa Loteri Fawr (Cymru) a weithiodd gyda chymunedau ymylol ledled Cymru, gan helpu unigolion a theuluoedd i wneud y gorau o’u hasedau a’u galluoedd, er mwyn mynd i’r afael â thlodi yn eu hardaloedd lleol. Er mwyn gwerthuso’r prosiect cynhaliwyd ymgynghoriadau un i un a grwpiau ffocws gyda staff y prosiect, cyfranogwyr y prosiect, grwpiau cymunedol a darparwyr gwasanaethau.