Economi a diwydiant
Mae gan ein tîm arbenigedd mewn cynnal asesiadau effaith economaidd ac ymchwil yn ymwneud â diwydiant neu ddatblygiad busnes.
-
(Welsh ICE, 2024–25)
Comisiynwyd Arad Research i werthuso prosiectau cymorth busnes Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) a gyflwynwyd gan Ganolfan Arloesi Menter Cymru (Welsh ICE) yng Nghaerffili a Chasnewydd. Roedd y gwerthusiad yn asesu'r trefniadau cyflawni, y cynnydd yn erbyn targedau allbwn, y canlyniadau economaidd a chymdeithasol a gyflawnwyd, a'r gwersi ar gyfer datblygu rhaglenni yn y dyfodol.
-
(Cyngor Sir Ceredigion, 2024–25)
Comisiynwyd Arad Research gan Gyngor Sir Ceredigion i asesu cyfraniad y sector diwylliant at economi a llesiant cymunedau yng Ngheredigion.
-
Cyswllt Ffermio (2024)
Roedd yr asesiad hwn yn cynnwys arolwg o bron i 300 o ffermwyr a oedd wedi cymryd rhan yn y gwasanaeth cynghori. Canolbwyntiodd yr astudiaeth ar asesu'r effaith a gafodd y gwasanaeth ar drosiant a phroffidioldeb busnesau fferm, yn ogystal â'r effaith ar faterion amgylcheddol gan gynnwys gostyngiadau ar ddibyniaeth ar blaladdwyr a gwell lles anifeiliaid.
-
Menter a Busnes (2024)
Adolygodd yr asesiad hwn yr effaith economaidd a’r elw ar fuddsoddiad a gynhyrchir gan y rhaglen, gyda’r nod o gefnogi ffermwyr cig eidion, defaid a llaeth i wneud defnydd mwy effeithiol ac effeithlon o’u glaswelltir. Roedd yr adolygiad hefyd yn ystyried yr effaith amgylcheddol ehangach a gafodd hyn ar leihau dibyniaeth ar wrtaith a phorthiant anifeiliaid a brynwyd.
-
(Theatr Clwyd, 2018)
Ar hyn o bryd, mae Arad yn cynnal astudiaeth ar gyfer Theatr Clwyd yn canolbwyntio ar ei heffaith economaidd ar Sir y Fflint a Gogledd ddwyrain Cymru yn ehangach drwy arolygon staff, cyflenwyr ac ymwelwyr. Mae’r astudiaeth hefyd yn archwilio effaith ddiwylliannol a chymdeithasol ehangach y sefydliad drwy asesu ei raglenni allgymorth a ac ansawdd y cynnig diwylliannol.