Addysg
Rydym yn gweithio ar draws ystod o feysydd addysg gan gynnwys y cwricwlwm, dulliau addysgu a dysgu a datblygu’r gweithlu.
-
Llywodraeth Cymru (2024–27)
Gwerthusiad o'r Cwricwlwm i Gymru ar raddfa fawr yw hon, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, sydd yn cael ei gynnal mewn partneriaeth â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Stirling, y Brifysgol Agored yng Nghymru a Phrifysgol Bangor. Mae'r ymchwil yn cynnwys amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys casglu data gydag ymarferwyr ysgol, ymchwil yn yr ysgol, arolygon a grwpiau ffocws gyda dysgwyr, rhieni a gofalwyr a rhanddeiliaid addysg ehangach.
-
(Llywodraeth Cymru 2025 -26)
Un o brif amcanion yr adolygiad yw sefydlu dealltwriaeth sylfaenol o argaeledd a chyflenwad darpariaeth dysgu ychwanegol cyfrwng Cymraeg, a deall sut mae darpariaeth y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Addysg (Cymru) 2018 yn cael ei rhoi ar waith yn ymarferol, yn enwedig o ran ei nod o symud tuag at system addysg ddwyieithog.
-
Mae Arad yn arwain gwerthusiad o'r diwygiadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yng Nghymru, a bydd yr ymchwil yn parhau tan 2027. Comisiynwyd y gwerthusiad gan Lywodraeth Cymru, ac mae’n cynnwys datblygu theori newid ac asesu gweithrediad y system ADY. Mae ein dulliau ymchwil yn cynnwys dadansoddi data, arolygon, a gwaith maes gydag ymarferwyr addysg, swyddogion awdurdodau lleol, byrddau iechyd, ysgolion, rhieni a dysgwyr.
Drwy'r gwerthusiad hwn, nod Arad yw cefnogi Llywodraeth Cymru i ddeall effeithiolrwydd diwygio'r system ADY a'i effaith.
-
(Llywodraeth Cymru 2025 -26)
Cafodd Arad Research ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru i gynnal ymchwil i Atodiad 4 o’r Meini Prawf ar gyfer achredu rhaglenni Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA), sy’n ymwneud â darpariaeth arbenigol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn y cyfnod cynradd.
Nod yr ymchwil yw deall sut mae’r rhaglen TAR Cynradd gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol (Niwroamrywiaeth) gan Bartneriaeth AGA Bangor yn cael ei chyflwyno, a’r canlyniadau sy’n deillio ohoni, yn ogystal â llunio argymhellion i gefnogi Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid.
-
(Equal Education Partners 2025-26)
Comisiynwyd Arad Research gan Equal Education Partners i gynnal gwerthusiad o Raglen Labordai Addysgu Byd-eang Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT) yng Nghymru. Prif nodau'r gwerthusiad oedd asesu cyflawniad, canlyniadau ac effeithiau'r rhaglen a gwneud argymhellion ar gyfer y dyfodol.