Addysg — Archif
-
(CLlLC 2023–25)
Mae Arad wrthi’n cynnal gwerthusiad o'r Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol. Buddsoddiad o £15 miliwn gan Lywodraeth Cymru yw hwn i gefnogi addysg gerddorol mewn ysgolion a chymunedau ledled Cymru, ac i sicrhau cyfle cyfartal wrth gael mynediad at brofiadau a gweithgareddau cerddorol. Mae Arad wedi datblygu model rhesymeg a fframwaith gwerthuso i gefnogi'r gwerthusiad, ac mae'n gweithio gyda gwasanaethau cerdd awdurdodau lleol ledled Cymru i asesu cynnydd ac effaith y GCC. Un o brif nodau'r gwerthusiad yw asesu’r effaith o gael mynediad at brofiadau cerddoriaeth ar les dysgwyr mewn ysgolion a grwpiau cymunedol ledled Cymru.
-
Gwerthusodd Arad brosiect STEM Cymru 2 a ariennir gan ESF, sy’n cyflwyno gweithgareddau ymgysylltu STEM i ysgolion, megis Her Fformiwla Un a Merched i fewn i STEM, mewn partneriaeth â phrifysgolion a chyflogwyr. Roedd y gwerthusiad yn cynnwys ymchwil ddesg o ddata monitro ac ymgynghoriadau/grwpiau ffocws gyda myfyrwyr, athrawon, staff y prosiect, cyflogwyr oedd yn cymryd rhan a chynrychiolwyr y diwydiant.
-
CCAUC (2023)
Prif amcanion ymchwil Arad oedd darparu mewnwelediad a dealltwriaeth i CCAUC o'r materion a wynebir gan fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig. Ymdriniodd yr ymchwil ag agweddau allweddol o’r profiad hwn gan gynnwys cymorth academaidd, cyfleoedd datblygu a hyfforddi, adeiladu cymunedol ymhlith myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig, a chynrychiolaeth ar lefel sefydliadol. Roedd y fethodoleg yn cynnwys cyfuniad o gyfweliadau ansoddol â sefydliadau addysg uwch a rhanddeiliaid ehangach a grwpiau ffocws gyda myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig o wyth sefydliad addysg uwch yng Nghymru.
-
(Llywodraeth Cymru, 2016-18)
Fe wnaeth Arad werthuso’r Model Ysgolion Arloesi, sydd yn datblygu cwricwlwm newydd i Gymru (gan gynnwys cymhwysedd digidol a datblygu proffesiynol). Mae’r Model Ysgolion Arloesi yn ddull newydd sydd yn cynnwys cydweithio rhwng partneriaid cenedlaethol a rhanbarthol ac ysgolion. Roedd y gwerthusiad yn darparu adborth amser real i Lywodraeth Cymru ar sut mae’r model yn cael ei ddarparu ac yn crynhoi unrhyw wersi i hysbysu cyfnodau dilynol o ddarpariaeth. Roedd y gwerthusiad yn cynnwys gwaith maes dwys dros ddwy flynedd gyda dros gant o ysgolion arloesi a rhanddeiliaid allweddol.
-
(Voice 21, 2018)
Fe gafodd y gwerthusiad ei gomisiynu gan yr angen i ddatblygu meincnodau llafaredd ac i gefnogi sut mae Voice 21 yn asesu eu gwaith a gwaith yr ysgolion y maent yn gweithio gyda nhw. Ffocws pellach ar gyfer y gwerthusiad oedd sefydlu’r amodau galluogi ar gyfer llafaredd mewn ysgolion, a fyddai’n caniatáu i ysgolion asesu’r cynnydd eu hunain. Disgwylid hefyd y byddai’r canfyddiadau gwerthuso yn drosglwyddadwy i raglenni eraill Voice 21 a gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill. Roedd y gwerthusiad yn cynnwys arolygon a chyfweliadau gydag athrawon a staff y rhaglen.
-
(Teach First, 2016-18)
Comisiynwyd Arad i werthuso Menter Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Teach First, sy’n darparu cwrs arweinyddiaeth dwys i athrawon ar draws Lloegr, yn ogystal â sesiynau DPP ar draws Cymru a Lloegr, er mwyn gwella strategaethau gyrfaoedd a chyflogadwyedd mewn ysgolion. Nod y gwerthusiad oedd asesu effeithiolrwydd yr hyfforddiant ar wella’r ddarpariaeth gyrfaoedd a chyflogadwyedd mewn ysgolion a chynnwys gwaith maes gyda darparwyr hyfforddiant ac ysgolion.