Celfyddydau, diwilliant a threftadaeth
Mae gan ein tîm arbenigedd mewn meysydd fel mesur ymgysylltiad y cyhoedd â rhaglenni celfyddydau, diwylliant a threftadaeth ac effaith y rhaglenni hynny.
-
(Llywodraeth Cymru, 2026)
Comisiynwyd Arad Research gan Lywodraeth Cymru i werthuso ei rhaglen o weithgarwch a oedd yn hyrwyddo Cymru yn ystod twrnamaint UEFA Euro Menywod 2025. Defnyddiwyd dull ymchwil a oedd yn cyfuno cyfweliadau ansoddol â rhanddeiliaid ac arweinwyr prosiect, ynghyd ag adolygiad o ddogfennau a thystiolaeth berthnasol.
Darllenwch yr adroddiad llawn yma.
-
(Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, 2026)
Comisiynwyd Arad Research gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent i ddatblygu Cynllun Gweithredu'r Celfyddydau ar gyfer y sir. Roedd y prosiect yn cynnwys mapio'r ddarpariaeth gelfyddydol bresennol, ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid, nodi blaenoriaethau ar gyfer y pum mlynedd nesaf, a gwneud argymhellion ynghylch strategaeth, trefniadau llywodraethu, modelau cyflawni a chyfleoedd ariannu yn y dyfodol. Roedd y gwaith ymchwil yn cynnwys adolygiad o ddogfennau perthnasol a mapio darpariaeth, ynghyd â sgyrsiau creadigol gyda phartneriaid allweddol.
-
(Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, 2026)
Comisiynwyd Arad Research gan Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru i gynnal adolygiad o enghreifftiau rhyngwladol o arferion arloesol ym maes cyfranogiad y cyhoedd mewn datblygu a gweithredu polisïau. Nododd yr adolygiad astudiaethau achos o gyfranogiad dinasyddion a allai gefnogi datblygu cynaliadwy yng Nghymru a chyfrannu at uchelgeisiau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
-
Cyngor Celfyddydau Lloegr (2024)
Comisiynwyd Arad gan Gyngor Celfyddydau Lloegr i gynnal gwerthusiad o ail flwyddyn y Rhaglen Breswyliadau Celfyddydau Gweledol Rhyngwladol Magnetig (Magnetig 2). Nod y gwerthusiad oedd asesu effaith y rhaglen ar artistiaid a lleoliadau a sut cafodd y rhaglen ei dylunio a'i chyflwyno gan bartneriaid y DU a Ffrainc.
-
Cyngor Sir Fynwy (2023–25)
Cynhaliodd Arad werthusiad o gyfnod datblygu Amgueddfa Neuadd Sirol, Trefynwy. Fel rhan o hyn, datblygwyd fframwaith gwerthuso i fonitro cynnydd yn erbyn amcanion y prosiect, gan gynnwys model rhesymeg i arwain y broses o gasglu data drwy gydol y cyfnodau datblygu a chyflawni.
-
Llywodraeth Cymru (2022–23)
Gan weithio ar y cyd gyda The Means a BOP Consulting, cefnogodd Arad swyddogion Llywodraeth Cymru i gynhyrchu Strategaeth Ddiwylliant newydd i Gymru, yn seiliedig ar ymchwil ac ymgysylltu priodol gan y sector gyda phartneriaid allweddol ar draws y sector diwylliant a threftadaeth yng Nghymru (a'r DU ehangach). Cynhaliodd Arad waith ymchwil ac ymgysylltu trwy drafodaethau gydag unigolion a sefydliadau cynrychioliadol, gan gasglu data, gwybodaeth a safbwyntiau, yn seiliedig ar brofiad byw/proffesiynol, i ffurfio sylfaen dystiolaeth y gellir datblygu'r Strategaeth newydd ohoni. Fel rhan o'r gwaith hwn, cyfrannodd Arad at ddatblygu astudiaethau achos a nodau a chamau gweithredu i ffurfio rhan o'r Strategaeth.