Plant, pobl ifanc a theuluoedd
Rydym yn cynnal ymchwil a gwerthuso ar draws ystod eang o feysydd gan gynnwys ymgysylltu a dilyniant ieuenctid, gofal plant a rhaglenni cymorth i deuluoedd.
-
(Llywodraeth Cymru 2026)
Comisiynwyd Arad Research gan Lywodraeth Cymru i adolygu rôl rhaglen Sefydlu a Symud wrth gefnogi twf darpariaeth gofal plant a blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg. Archwiliodd y prosiect sut mae'r rhaglen yn cyfrannu at ddatblygiad y sector ac ystyriodd ystyriaethau allweddol ar gyfer ei datblygu ymhellach er mwyn cryfhau darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y dyfodol.
-
(Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, 2025)
Bu Arad Research yn cefnogi Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (WEN) Cymru i gynnal ymchwil ar ofal plant yng Nghymru. Defnyddiwyd arolwg o rieni i gryfhau'r sylfaen dystiolaeth ynghylch defnydd teuluoedd incwm isel o ofal plant, a chafodd hyn ei ategu gan grwpiau ffocws gyda rhieni a gofalwyr. Recriwtiwyd cyfranogwyr drwy'r cyfryngau cymdeithasol, rhwydweithiau rhieni, Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd, timau Dechrau'n Deg ac amrywiaeth o sefydliadau cymunedol.
-
Cyngor Llyfrau Cymru (2023)
Trwy rhagraglen y Cyngor Llyfrau Cymru, darparwyd llyfr eu hunain i’w gadw i bob dysgwr mewn ysgolion gwladol ledled Cymru. Cafodd y llyfrau eu dosbarthu'n uniongyrchol i ysgolion ac roedd llyfrau hefyd ar gael i deuluoedd drwy flychau llyfrau a ddanfonwyd i fanciau bwyd. Roedd gwerthusiad Arad yn canolbwyntio ar yr effaith a gafodd y fenter hon ar annog plant a theuluoedd i ddarllen er pleser.
-
CLlLC (2022–23)
Cynhaliodd Arad gwerthusiad proses ac effaith o’r Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf (SHEP) ‘Bwyd a Hwyl.’ Cafodd y rhaglen ‘Bwyd a Hwyl’ ei roi mewn gweithrediad fel peilot mewn ymateb i bryderon cynyddol am dlodi bwyd a cholled dysgu'r haf ymhlith plant Caerdydd. Amcanion y gwerthusiad oedd archwilio beth yr oedd modelau darparu ysgolion ac awdurdodau lleol yn cynnwys. Amcanion y gwerthusiad effaith oedd archwilio i ba raddau yr oedd y prosiect yn cyflawni'r canlyniadau a fwriadwyd.
Adroddiadau ar gael yma