Ymchwil Iaith cymraeg
Rydym yn gweithio ar draws ystod eang o feysydd polisi iaith Gymraeg, gan gynnwys ymchwil ar ddefnydd iaith a chynllunio strategol ar gyfer datblygu’r Gymraeg.
-
(Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, 2025)
Comisiynwyd Arad Research gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru i asesu maint, gwerth a phroffil y sector cyfieithu Cymraeg yng Nghymru. Cyfunodd yr ymchwil arolygon, cyfweliadau a dadansoddiad desg i archwilio strwythur y proffesiwn, tueddiadau'r gweithlu, heriau recriwtio a chadw staff, arferion gwaith, a rôl technoleg o fewn y sector.
-
(Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, 2024)
Comisiynwyd Arad Research gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i asesu cyfraniad ehangach y Ganolfan at gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg. Canolbwyntiodd yr ymchwil ar bartneriaethau strategol y Ganolfan, ei chefnogaeth i ddatblygu'r gweithlu ar draws sectorau allweddol, a'i chyfraniad at amcanion polisi iaith Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Cymraeg 2050.
-
(Prifysgol Caerdydd, 2023)
Comisiynwyd Arad Research gan Brifysgol Caerdydd i ymchwilio i farn dysgwyr a thiwtoriaid Cymraeg am “Gwylia dy Dafod”, adnodd ar-lein sy'n defnyddio sganiau MRI i ddangos sut mae seiniau Cymraeg yn cael eu ffurfio. Roedd yr ymchwil yn asesu defnyddioldeb yr adnodd a'i botensial i gefnogi dysgwyr Cymraeg.
-
Llywodraeth Cymru (2019–21)
Rhwng 2019 a 2021, cynhaliodd Arad werthusiad o Mwy na geiriau, y fframwaith strategol dilynol ar gyfer gwasanaethau Cymraeg mewn iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol, 2016–19. Nod y gwerthusiad oedd asesu sut, ac i ba raddau, roedd Mwy na geiriau wedi cyflawni’r nod a fwriadwyd i hybu a chefnogi’r defnydd o’r Gymraeg mewn iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Roedd hefyd yn anelu at nodi rhwystrau a hwyluswyr i weithredu amcanion y strategaeth. Adolygodd y gwerthusiad i ba raddau yr oedd pob un o saith amcan allweddol y strategaeth wedi’u bodloni (h.y. Arweinyddiaeth Leol a Chenedlaethol, a Pholisi Cenedlaethol; Mapio, Archwilio, Casglu Data ac Ymchwil; Cynllunio Gwasanaethau, Comisiynu, Contractio a Chynllunio'r Gweithlu; Hybu ac Ymgysylltu; Addysg Broffesiynol; Y Gymraeg yn y Gweithle; Rheoleiddio ac Arolygu).
-
(Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol 2018)
Gwerthusodd Arad y cynllun Cymraeg Gwaith, sy’n rhoi cyfleoedd i weithwyr ddysgu Cymraeg neu ddatblygu eu Cymraeg ymhellach er mwyn cwrdd ag anghenion busnes eu cyflogwr. Mae’r rhaglen yn cynnwys cyfres o wasanaethau cymorth i gyflogwyr (yn enwedig yn y sector cyhoeddus) a chyflogeion, gan gynnwys cyrsiau ar-lein, dwys a phreswyl. Roedd y gwerthusiad yn cynnwys datblygu fframwaith gwerthuso a chasglu adborth gan amrywiaeth eang o ddysgwyr a chyflogwyr er mwyn llywio’r broses barhaus o ddatblygu’r cynllun.